Rhif y ddeiseb: P-06-1163

Teitl y ddeiseb: Dylid ymestyn y fwrsariaeth STEMM ôl-raddedig i bob myfyriwr MSc yng Nghymru.

Geiriad y ddeiseb: Ym mis Mehefin 2019 cyhoeddodd Llywodraeth Cymru gynllun bwrsariaethau i gynyddu nifer y graddedigion o Gymru sy’n aros yng Nghymru neu’n dychwelyd i Gymru i astudio gradd meistr mewn Gwyddoniaeth, Technoleg, Peirianneg, Mathemateg neu Feddygaeth (a elwir hefyd yn bynciau 'STEMM'). Ar hyn o bryd mae’r cyllid hwn yn berthnasol i brifysgolion traddodiadol yn unig, sy’n eithrio myfyrwyr sy'n dewis gradd Meistr mewn pwnc STEMM trwy ddarparwyr eraill. Mae hyn yn eithrio rhai myfyrwyr y mae angen mwy o hyblygrwydd arnynt o ran y pwnc STEMM neu sut caiff y cwrs ei gyflwyno.

 


1.     Pwyntiau Allweddol

Ym mis Awst 2019, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru dri chymhelliad newydd i fyfyrwyr wneud eu gradd Meistr yng Nghymru. Un o'r cymhellion hynny oedd bwrsariaeth o £2,000 i raddedigion o bob oed astudio yng Nghymru ar gyfer gradd Meistr mewn Gwyddoniaeth, Technoleg, Peirianneg, Mathemateg neu Feddygaeth (STEMM) – dyma'r cynllun y mae'r ddeiseb yn cyfeirio ato.

Cyhoeddwyd bryd hynny y byddai'r cymhellion yn cael eu rhoi i ddarparwyr addysg uwch Cymru drwy Gyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru (CCAUC).

Ar adeg ysgrifennu'r papur briffio hwn, er y gall myfyrwyr ar gyrsiau lefel Meistr penodol a addysgir yn y Ganolfan Dechnoleg Amgen (y darparwr y cyfeirir ato yn y ddeiseb) gael cymorth ariannol ar gyfer ffioedd a chynhaliaeth, nid yw'r darparwr ei hun, sef y Ganolfan Dechnoleg Amgen, yn gymwys i dderbyn arian cyhoeddus gan CCAUC.

Y rheswm am hyn yw nad yw’r Ganolfan Dechnoleg Amgen yn bodloni'r diffiniad o sefydliad addysg uwch sydd ei angen i ganiatáu i CCAUC ei ariannu. Felly, nid yw CCAUC yn gallu dyrannu cyllid cynllun cymhelliant i’r Ganolfan Dechnoleg Amgen (a darparwyr amgen tebyg eraill) ar gyfer ei chyrsiau Meistr perthnasol.

Er mwyn caniatáu i CCAUC ystyried dyrannu arian cyhoeddus i’r Ganolfan Dechnoleg Amgen a darparwyr amgen tebyg yng Nghymru, byddai angen i’r Ganolfan geisio cael ei ddynodi gan Lywodraeth Cymru fel sefydliad addysg uwch gan ddefnyddio pwerau o dan Adran 129 o Ddeddf Diwygio Addysg 1988.

Mae CCAUC wedi nodi sail y dyraniad parhaus o gynllun cymhelliant Meistr STEMM yn y cylchlythyr hwn, a nodir y sail gyffredinol a ddefnyddir ar gyfer ariannu ym mharagraff 6 o’r cylchlythyr hwn.

2.     Manylion pellach

Mae cyllid cyhoeddus ar gyfer darpariaeth addysg uwch a chymorth ariannol i fyfyrwyr addysg uwch yn fater cymhleth. Mae'r gyfraith yn golygu y gall myfyrwyr gael cymorth ariannol gan Lywodraeth Cymru i ddilyn cwrs, ond nid yw'r darparwr ei hun yn gymwys i dderbyn arian cyhoeddus yn uniongyrchol. Y rheswm am hyn yw bod y gyfraith sy'n ymwneud â darparwyr cyllid, a'r gyfraith o ran dyfarnu cymorth ariannol i fyfyrwyr, yn faterion ar wahân.

2.1.         Darparwyr cyllid

Mae cyllid cyhoeddus yn cael ei roi i ddarparwyr gan CCAUC gan ddefnyddio pwerau a nodir yn Neddf Addysg Bellach ac Addysg Uwch 1992 (Deddf 1992). Mae'r pwerau hyn yn cynnwys natur benodol y gweithgareddau sy'n gymwys i gael cyllid a'r mathau penodol o sefydliadau y gellir rhoi cyllid iddynt. Y gweithgareddau sy'n gymwys i gael cyllid yw'r rhai a gyflawnir gan 'Sefydliadau Addysg Uwch' yn bennaf.

Felly, y prawf allweddol yn y sefyllfa hon o dan Ddeddf 1992 yw os daw darparwr o fewn y diffiniad o ‘Sefydliad Addysg Uwch’. Mae Adran 65(5) o Ddeddf 1992 yn diffinio sefydliad addysg uwch fel 'prifysgol, sefydliad a gynhelir gan gorfforaeth addysg uwch neu sefydliad dynodedig.'

Ar hyn o bryd, nid yw’r Ganolfan Dechnoleg Amgen yn cyd-fynd ag unrhyw un o'r diffiniadau hynny o Sefydliad Addysg Uwch. Mater i Lywodraeth Cymru felly (gan ddefnyddio ei phwerau o dan Adran 129 o Ddeddf Diwygio Addysg 1988) fyddai penderfynu a ddylid ei ddynodi'n sefydliad sy'n gymwys i gael arian gan CCAUC ai peidio.

2.2.         Cyllid i fyfyrwyr

Mae cyllid cyhoeddus ar gael i fyfyrwyr ar gyfer ffioedd dysgu a chynhaliaeth o dan y rheoliadau cymorth i fyfyrwyr a wnaed gan Lywodraeth Cymru gan ddefnyddio ei phwerau o dan Ddeddf Addysgu ac Addysg Uwch 1998. Gwneir hyn drwy ‘ddynodi’ cyrsiau i fod yn gymwys am gymorth i fyfyrwyr. Gall dynodiadau naill ai fod yn awtomatig mewn rhai amgylchiadau, neu rhaid i ddarparwr ofyn i Lywodraeth Cymru ddynodi pob cwrs yn unigol (proses y mae CCAUC yn gyfrifol amdani ar ran Llywodraeth Cymru).

Yn yr achos hwn, nid yw cyrsiau’r Ganolfan Dechnoleg Amgen yn cael eu dynodi'n awtomatig, ac felly mae wedi gwneud cais llwyddiannus i rywfaint o'i ddarpariaeth Meistr gael ei dynodi'n benodol gan Lywodraeth Cymru at ddibenion cymorth i fyfyrwyr. Mae hyn yn golygu y gall myfyrwyr sy'n astudio cyrsiau o'r fath gael mynediad at becyn cymorth Cyllid Meistr Llywodraeth Cymru. Byddai angen i'r rhan fwyaf o ddarparwyr amgen ddilyn yr un broses er mwyn galluogi eu myfyrwyr i gael cymorth ariannol gan Lywodraeth Cymru. 

3.     Casgliad

Gall myfyrwyr sy'n astudio cyrsiau Meistr penodol sydd wedi'u dynodi gan Lywodraeth Cymru at ddibenion cymorth ariannol i fyfyrwyr dderbyn y pecyn Cyllid Meistr. Bydd hyn yn wir yn achos darparwyr amgen eraill yng Nghymru sydd hefyd wedi dynodi eu cyrsiau at ddibenion cymorth ariannol i fyfyrwyr (naill ai'n awtomatig neu'n unigol).

Ond gan nad yw’r Ganolfan Dechnoleg Amgen yn dod o fewn y diffiniad o Sefydliad Addysg Uwch, a chan nad yw wedi'i dynodi felly gan Lywodraeth Cymru gan ddefnyddio ei phwerau o dan Ddeddf 1988, ni all dderbyn cyllid drwy gynllun cymhelliant STEMM CCAUC ar hyn o bryd. O dan y gyfraith bresennol, mater i’r Ganolfan Dechnoleg Amgen, neu unrhyw ddarparwr arall yn yr un sefyllfa, yw ceisio cael ei dynodi felly gan Lywodraeth Cymru, ac i Lywodraeth Cymru wneud y dynodiad. Gall y Bil Addysg Drydyddol ac Ymchwil (Cymru) y mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu ei gyflwyno i'r Senedd hon ddiwygio’r gofynion i sefydliad fod yn gymwys i gael arian cyhoeddus yn y dyfodol.

 

Gwneir pob ymdrech i sicrhau bod y wybodaeth a gynhwysir yn y briff hwn yn gywir adeg ei gyhoeddi. Dylai darllenwyr fod yn ymwybodol nad yw'r papurau briffio hyn yn cael eu diweddaru o reidrwydd na'u diwygio fel arall i adlewyrchu newidiadau dilynol.